Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Equality, Local Government and Communities Committee

ELGC(5)-08-17 Papur 5/ Paper 5

 

Text Box: Yr Adran Gwaith a Phensiynau

3 Mawrth 2017

Annwyl Mr Morgan,

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn trafod amryw faterion sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae gennym ddiddordeb ym maes budd-daliadau nas hawliwyd. Rydym yn ymwybodol bod y DWP yn cyhoeddi amcangyfrifon am faint sy'n manteisio ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, ac i'r set ddata ddiweddaraf, sef yr un ar gyfer ar gyfer 2014/15, gael ei chyhoeddi ym Mehefin 2016. Fodd bynnag, mae'r data hyn ar gyfer Prydain Fawr; rydym yn chwilio am wybodaeth fanylach am lefelau'r budd-daliadau nas hawliwyd yng Nghymru. Byddem yn croesawu eglurhad gennych ynghylch a yw'r DWP yn casglu'r wybodaeth hon, ac os ydyw, a fyddech yn barod i'w rhannu â'r Pwyllgor i'n cynorthwyo yn ein gwaith.


 

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am y cais hwn, neu am waith y Pwyllgor, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor, Naomi Stocks, ar 0300 200 6222 neu ar naomi.stocks@cynulliad.cymru

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd